Cefndir hanesyddol
Mewn gwirionedd mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys dau ddarn ar wahân, un ar bob ochr i’r dyffryn, a arferai fod yn ddefeidiogau yn gysylltiedig â’r ffermydd ar waelod Nant Ffrancon. Fe’u lleolir rhwng ffyrdd Telford ac Arglwydd Penrhyn (ar y gwaelod) a’r mynyddoedd agored uwchlaw. Arferent fod yn rhan o ystad y Penrhyn ac erbyn hyn maent yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Clostiroedd afreolaidd
Llethrau serth, a nodweddir gan glostiroedd afreolaidd, lle y ceir rhywfaint o dystiolaeth o weithio mwynau mewn nifer o leoliadau.

