Cefndir hanesyddol
Rhan o hen ystad y Penrhyn sy’n fwriadol yn ‘bictiwrésg’, a oedd yn rhan o ffordd Arglwydd y Penrhyn o’r chwarel i Gapel Curig, a adeiladwyd yn y 1790au. Mae’r ardal yn cynnwys Ogwen Bank, encilfan twt teulu’r Penrhyn, a ffermydd yr ymddengys iddynt gael eu gosod ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tirwedd bictiwrésg
Mae pensaernïaeth yr ardal yn nodweddiadol o fonheddig. Erbyn hyn mae Ogwen Bank yn cael ei ddefnyddio unwaith eto fel parc carafannau; mae adeiladau eraill yn cynnwys y cottage ornée Dol Awen, a’r llaethdy ym Mhlas Pen isa’r Nant. Ceir pompren yng Ngheunant a phont yn yr arddull fonheddig yn Ogwen Bank.
