Cefndir hanesyddol
Mae Llandygái yn bentref ystad cynlluniedig a adeiladwyd wrth byrth Castell y Penrhyn o amgylch eglwys Llandygái. Dim ond yr eglwys, y rheithordy a Thy Mawr, sef cartref asiant ystad y Penrhyn, William Williams Llandygái, yn unig a welir ar ysgythriadau yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r pentref yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, a bu rhywfaint o waith datblygu ar y cyrion ers hynny.
Mae dylanwad yr ystad hefyd i’w weld yn anheddiad Tal-y-Bont gerllaw, er i dai cymdeithasol gael eu hadeiladu yma ers y rhyfel.
Ceir hefyd nifer o strwythurau diwydiannol, gan gynnwys safleoedd nifer o felinau, a gefail a oedd yn gysylltiedig â rheilffordd wreiddiol y Penrhyn a adeiladwyd ym 1801 ac a redai trwy’r pentref.
Key historic landscape characteristics
Pentref ystad
Yn y rhan fwyaf o’r ddau bentref ceir ailddehongliad bonheddig o’r traddodiad brodorol a llawer o elfennau addurnol. Mae’r rhain yn amrywio o’r bythynnod annedd gerllaw’r eglwys i’r tai deulawr mwy o faint â chladin o lechi ar y llawr uchaf, sy’n nodweddiadol o bensaernïaeth diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a phensaernïaeth ystadau’r Penrhyn a’r Faenol. Mae dylanwad yr ystad hefyd i’w weld yn y ffaith nad oes unrhyw dafarndy na chapel anghydffurfiol.
Mae tai o fath diwydiannol mwy penodol, er yn dal yn addurnedig, i’w gweld yn rhes Tai’r Felin.

