Cefndir hanesyddol
Prif ran cyfadail chwarel lechi Dinorwig, yr ail chwarel fwyaf yn y byd ar un adeg ar ôl Chwarel y Penrhyn. Roedd y gweithfeydd cynharach wedi’u lleoli i’r gogledd o’r ardal hon (gweler 08) ond mae tystiolaeth bod rhywfaint o waith cloddio yn mynd ymlaen ar safle presennol y brif chwarel o 1787. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg unwyd y gweithfeydd hyn i ffurfio gwahanol adrannau chwarel Dinorwig, a gosodwyd rheilffyrdd cyfuchlinol a phlanau ar oleddf i gysylltu wyneb y graig a’r tomenni, llochesi gwneuthurwyr y llechi a’r melinau. Caeodd y chwarel ym 1969, a newidiwyd rhan o’r gweithfeydd isaf o amgylch Hafod Owen gryn dipyn i greu cynllun y storfa bwmpiedig.
Agorwyd chwarel Marchlyn gerllaw yn y 1930au ar safle maes glas ac fe’i datblygwyd ar ôl yr ail ryfel byd gan ddefnyddio dulliau modern. Caeodd yn y 1960au.
Gall y mwynglawdd copr ddyddio o’r oes efydd, ac roedd yn weithredol erbyn canol y 18fed ganrif. Daethpwyd â gweithrediadau i ben yn y 1870au.
Bu chwarel Gallt-y-Llan yn weithredol o c.1811 i c. 1832 ond nis datblygwyd erioed ar raddfa Dinorwig.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tirwedd chwareli llechi a mwynglawdd copr
O ran golwg mae chwarel Dinorwig yn safle trawiadol yn ymestyn dros ardal sylweddol. Fe’i gweithiwyd fel chwarel agored bonciog ac mae’r ponciau eu hunain wedi goroesi’n gyfan i raddau helaeth yn ogystal â’r argloddiau inclein sylweddol o gerrig sych a adeiladwyd i gysylltu’r gwahanol lefelau. Mewn nifer o leoliadau mae cragen y melinau llechi a godwyd o 1921 ymlaen wedi goroesi. Er i’r cyfadail adeiladau ar bonc ffeiar injan gael ei ddymchwel, mae’r rhan fwyaf o’r peiriannau ar lefelau uchaf y chwarerl o hyd, gan gynnwys rheilffyrdd, incleins, rhaffyrdd, byrddau llifio a chywasgwyr.

