08 Tal-y-bont (PRN 18241)

Cefndir hanesyddol

Mae Tal-y-bont yn un arall o’r aneddiadau hirgul o’r 19eg ganrif yn bennaf, a ddatblygodd ar hyd y ffordd arfordirol o’r gogledd i'r de.  Anheddiad ydyw a gerfiwyd allan o gornel ddeheuol stad Cors-y-gedol, ac roedd ‘craidd’ gwreiddiol y pentref, sef clwstwr llac o dai cerrig yn dyddio o’r 19eg ganrif, fel Llanbedr, â phont yn ei ganol i gludo'r ffordd dros Afon Ysgethin.  Ar wahân i hynny, mae’r anheddiad yn cynnwys stad enfawr o dai o ddiwedd yr 20fed ganrif.  

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

anheddiad o’r 20fed ganrif â chraidd cynharach  

Ceir clwstwr bychan o dai cerrig o ddechrau’r 19eg ganrif o amgylch y bont sy'n cludo’r briffordd dros Afon Ysgethin, (ac yn bennaf i’r de o’r bont).  Mae’n ymddangos bod y rhain yn hŷn na’r ffordd bresennol, gan nad ydynt wedi eu codi yn groes iddi.  Fodd bynnag, ychydig i’r gogledd o’r bont ceir siop/swyddfa bost y pentref (sef yr unig adeilad masnachol yn yr anheddiad, unwaith eto yn adeilad carreg o ddiwedd y 19eg ganrif – gweler y ffotograff) ac mae’n amlwg iddo gael ei adeiladu fel bod ei du blaen yn wynebu’r ffordd.  Stad o dai yw gweddill yr anheddiad. Mae'n ymledu i fyny'r bryn ar ochr ddwyreiniol y ffordd (y tu ôl i’r siop) ac mae’n cynnwys yn bennaf parau o fyngalos un llawr (o’r 1960au mae’n debyg) gyda gerddi bychain.  Nid oes ffocws na chymeriad i'r anheddiad, a phrin y gellid ei ddisgrifio fel 'pentref'.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home