06 Llethrau uchaf o amgylch Llyn Erddyn (PRN 18239) Cefndir hanesyddol

Ceir sawl henebyn angladdol a defodol neolithig ac o’r oes efydd yn rhannau isaf yr ardal, ond fel arall, nid oes unrhyw arwyddion o waith dyn ar dirwedd ddiarffordd yr ardal hon cyn i’r waliau syth o gerrig sychion gael eu codi i gau’r tir yn y 19eg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

henebion angladdol a defodol cynnar creiriol, waliau sychion  Mae’r ardal hon yn debyg i ardal 02, ond mae hi’n neilltuol yn yr ystyr ei bod hyd yn oed yn fwy creigiog ac yn llai amaethyddol ffafriol na’r ardal honno hyd yn oed.  Ceir nifer o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol cynnar yn rhan isaf yr ardal, ychydig uwchlaw Llecheiddior, sy’n ymddangos fel petaent yn ffurfio grŵp penodol ar grib uwchlaw Afon Ysgethin.  Fel arall, yr unig nodweddion hanesyddol yma yw’r waliau sychion syth sy’n dyddio o’r 19eg ganrif ac ar batrwm unionlin.  Fel yn ardal 2 mae’r rhan uchaf yn cynnwys llethr y bryn hyd at gopa’r grib ac unwaith eto, nid oes unrhyw anheddu cyfoes yn yr ardal.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home