32 Morfa Harlech - twyni (PRN 18265)

Cefndir hanesyddol

Yn y cyfnod canoloesol, adeiladwyd castell Harlech (a’r dref – ardal 18) ar benrhyn creigiog uwchlaw’r môr.  Dros y canrifoedd dilynol, fe lenwodd yr ardal islaw’r dref â llaid, ac ystyrid hi yn anialdir corsiog. Dyma’r ardal y tremiai Bendigeidfran drosti.  Wedi i stad Glyn-cywarch gau a draenio rhan o Forfa Harlech (ardal 31) wedi 1789 fe gollodd bwrdeisiaid y dref (Harlech, ardal 18) hawliau tir comin yno.   Mae’r ardal hon o dwyni tywod yn wahanol o ran ei chymeriad i weddill y morfa (gweler ardal 30), a dynodwyd hi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Warchodfa Natur Genedlaethol ym 1953.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

twyni tywod

Mae ehangder y system twyni tywod (gweler ardal debyg hefyd yn ardal 10) yn diffinio'r ardal nodwedd hon.  Hysbyswyd bod Morfa Harlech yn SoDdGA am y tro cyntaf ym 1953 ac adolygwyd ei statws ers hynny (CCGC cyf. 31WNT).  1536ha yw arwynebedd yr ardal.  Dynodwyd hi yn safle biolegol a geomorffolegol cyfun.  Ardal helaeth o fflatiau llaid ar aber, morfeydd heli, twyni tywod a glaswelltir twyni, pob un o werth biolegol sylweddol.  Mae Morfa Harlech yn safle pwysig ar gyfer astudiaethau geomorffoleg.  Mae’n cynnwys rhagdir cysbaidd o bwys lle mae aliniad y traeth a’r twyni tywod ar ongl lem i’r hen glogwyni wedi arwain at waddodiad helaeth.  

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home