Cefndir hanesyddol
Anheddiad cnewyllol gwasgaredig llac yw Llanfair, rhywfaint uwchlaw prif ffordd yr A496 o’r gogledd i’r de (yn hytrach nag ar ei hyd fel aneddiadau eraill yr ardal, megis Dyffryn Ardudwy a Llanbedr). Mae’r eglwys yn ganoloesol o ran dyddiad, ac er nad oes rhagor o dystiolaeth bod pobl wedi byw yma yn ystod y canol oesoedd, mae’n ymddangos bod craidd llac o dai o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif o’i hamgylch (ar lwybr cynnar y brif ffordd cyn newid ei hynt). Mae’r rhan fwyaf o’r anheddiad i’r gogledd, ar hyd hynt ddeheuol yr hyn sy’n cychwyn fel y Ffordd Uchaf o Harlech (hynt gynnar y brif ffordd o bosibl), a’r tai o’r 20fed ganrif (rhesi o fyngalos unllawr diddychymyg yn bennaf) sydd o ran nifer yn ffurfio prif ran yr anheddiad i fyny’r llethr i’r gogledd unwaith eto (uwchlaw’r brif ffordd bresennol). Saif rhes anghydnaws o dai pâr o ddiwedd yr 20fed ganrif ar hyd ochr ogleddol y ffordd fach sy’n arwain allan at yr ucheldir (ardal 25) ac mae ffotograffau o’r awyr yn dangos pa mor agos yw’r rhain at yr aneddiadau cynhanesyddol hwyr.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
anheddiad modern sydd wedi tyfu allan o graidd cynharach Mae craidd cynnar yr anheddiad o amgylch yr eglwys ganoloesol (gweler y ffotograff), tra bod y gweddill yn ymwasgaru i fyny’r llethrau uwchlaw’r ffordd i’r gogledd. Nid oes cynllun cyffredinol, ac mae’n ymddangos bod hyd yn oed tai’r 20fed ganrif wedi’u hadeiladau mewn modd ad hoc. Adeiladwyd rhai o’r tai cynnar (nid oes unrhyw adeiladau annomestig yn yr anheddiad, ac mae’r amwynderau agosaf yn Harlech) gyda’u echelinau hir sythlin i’r llethr o fewn cynllun anheddiad organig (mae llawer o’r tai hyn wedi’u gwyngalchu, ac mae’r cyfan yn ymddangos yn ‘dwt’). Ceir hefyd rhai terasau byr o dai tal o’r 19eg ganrif, a llawer o ‘dai gwyliau’ o’r 20fed ganrif, o’r math a ddefnyddiwyd rhwng y ddau ryfel byd. Mae chwareli llechi Llanfair yn ymestyn i’r de o’r anheddiad ar hyd ymyl y clogwyn.

