20 Caeau o amgylch Plas Uchaf (PRN 18253)

Cefndir hanesyddol

Ardal lled fach o gaeau pori wedi’u gwella rhwng ardaloedd coediog Glyn-cywarch (ardal 31) a’r llethrau o amgylch Bryn Bwbach (ardal 22), i lawr y llethr, ac ardal ymylol, greigiog, 33 uchod (gweler y ffotograff).  Twmpath llosg (o’r oes efydd), i’r gogledd o Foel-glo, yw’r dystiolaeth gynharaf o bobl yn byw yma ac mae tystiolaeth o aneddiadau cynhanesyddol diweddarach mewn dau grŵp cylchoedd cytiau cynhanesyddol hwyr (hefyd yn rhestredig) (ger Moel-glo ac Esgair-olwyn).  Fel arall nid oes unrhyw safleoedd creiriol yn yr ardal, a dim ond pum fferm yw’r anheddiad nesaf  (Plas-uchaf, Ffriddfedw, Moel-glo (ffotograff), Moel-y-geifr a Thyn-y-bwlch): mae’n ymddangos y byddai’r rhan fwyaf o’r rhain yn tarddu o gyfnod ôl-ganoloesol cynnar, ac mae natur y tir pori yn awgrymu iddo gael ei wella dros gyfnod maith.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

caeau pori, ffermydd cerrig, safleoedd archeolegol creiriol Y caeau pori agored a gafodd eu gwella yw’r prif nodweddion sy’n diffinio’r ardal hon.  Mae’r llociau’n fawr ac yn afreolaidd eu siâp (diweddar o ran dyddiad, mae’n debyg) ac mae eu ffiniau yn syth neu’n gromlinog, ond mae bodolaeth y safleoedd anheddiad cynhanesyddol yn awgrymu mai cynllun sydd wedi disodli’r un cynharach yw hyn.  Mae rhannau uchaf yr ardal yn wael eu draeniad a heb eu gwella. Mae’r ffermydd cerrig gwasgaredig hefyd yn bwysig ar gyfer cymeriad lleol, ac mae’r safleoedd creiriol yn ychwanegu dyfnder hanesyddol i dirwedd sydd fel arall yn gyson (gweler y ffotograff).

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home