19 Ynys Llanfihangel-y-traethau (PRN 18252)

Cefndir hanesyddol

Mae enw’r ardal nodwedd hon yn awgrymu ei tharddiad fel ynys oddi ar arfordir gogledd-orllewin Meirionnydd, sydd yn ddiweddarach wedi’i chysylltu â’r tir mawr wrth i stad Glyn-cywarch gau ac adfer y morfa ar ôl 1798 (gweler ardal 30).  Rhoddodd yr ardal ei enw i blwyf mawr Llanfihangel-y-traethau a oedd yn ymestyn yn bell i mewn i’r tir yn y cyfnod canoloesol.   Mae i’r eglwys darddiad canoloesol (ac mae mynwent gron sydd ar ei phen ei hun yn ei hamgylchynu ar ochr ddwyreiniol yr ynys/yr ardal, wedi’i chysgodi rhag y tywydd), ac er nad oes unrhyw dystiolaeth arall bod pobl wedi byw ar yr ynys ymhell yn ôl, mae cyfres o linsiedi i’w gweld yn amlwg ar lethrau’r ‘bryn’ yn y canol (sydd 70m o uchder ar y Datwm Ordnans) ar ffotograffau o’r awyr.  Gorwedd y prif anheddiad cnewyllol bychan (‘Ynys’) yn y fan hon islaw’r eglwys a chlogwyn clegyrog, ar yr hyn a fyddai unwaith wedi bod yn forlin gwreiddiol gyferbyn â’r tir mawr ac ar aber yr afon (Afon y Glyn, sydd bellach wedi’i chamlesu trwy’r gors a adferwyd), lle byddai wedi mynd i mewn i’r môr.  Er bod y rhan fwyaf o’r adeiladau yma yn dyddio o’r 19eg ganrif, tybir bod tarddiad cynnar i’r anheddiad hwn am y rhesymau a nodwyd.  Saif y pentref ar dro ym mhrif ffordd yr A496 sydd bellach yn croesi’r morfa.  Fel arall, mae nifer o ffermydd gwasgaredig ar hyd a lled yr ynys.  

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

tir pori heb ei gau, caeau, ffermydd

Mae’r Ynys wedi’i rhannu yn ddwy ardal wahanol.  Mae’r pen gorllewinol yn uwch, gydag Ogof Foel yn y canol ac mae’n codi i 70m OD o uchder.  Nid yw’r rhan fwyaf ohono wedi’u gau i mewn, ac mae nifer o waliau syth (sy’n dyddio o’r 19eg ganrif mae’n debyg) yn croesi’r ardal ac yn ei rhannu yn llociau mawr.  Tair fferm yn unig sydd yma, o amgylch gwaelod y bryn.  Mewn gwrthgyferbyniad â hyn, mae cyfres o lociau mawr, afreolaidd eu siâp a phum neu chwe fferm ar y pen dwyreiniol is (lle ceir cysgod rhag y tywydd gwaethaf). Mae adeiladau anheddiad cnewyllol Ynys yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf, adeiladau carreg ar wahanol gynlluniau, wedi’u cau i mewn gan glogwyn tra serth.  Nid oes unrhyw adeiladau amwynder, dim ond tai, ond mae’r anheddiad ar y brif ffordd, (ac ychydig bellter yn unig o’r orsaf rheilffordd agosaf) o fewn cyrraedd hawdd i Harlech.  Nid oes unrhyw safleoedd archeolegol creiriol yma, a dim ond ychydig ddarnau o ffyrdd bach nad ydynt yn arwain i unman.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home