14 Gwastadedd arfordirol y tu ôl i’r RAE yn Llanbedr (PRN 18247)
Cefndir hanesyddol
Mae’r ardal yn cynnwys gweddill y gorlifdir arfordirol y tu ôl i Forfa Dyffryn (ardal 10) ac RAE Llanbedr (ardal 11), i bob pwrpas hyd at ddechrau’r codiad tir. Mae’n cynnwys tir i'r de ac i’r gogledd o Afon Artro lle mae’n llifo o lethrau'r bryniau ar draws y gwastadedd ac i mewn i'r môr. Mae’r ardal yn cynnwys maen hir Llanbedr ger aber afon Artro y dehonglwyd ei fod yn fan cychwyn i lwybr cynhanesyddol ar draws yr ucheldir uwchlaw Harlech (gweler hefyd ardal 25). Ychydig o anheddu fu yn yr ardal er ei fod yn amrywiol ac yn canolbwyntio ar ochr ogleddol yr afon. Yma mae’r ffermydd (nid oes unrhyw dai eraill) yn cynnwys fferm Cae Nest (fferm is-ganoloesol bwysig) ger Llanbedr, Argoed (fferm o ddechrau’r 16eg ganrif gydag ychwanegiadau diweddarach, enghraifft dda o drefniadaeth system uned o ddolen o anheddau gydag adeiladau cysylltiedig yng nghanol fferm helaeth), a fferm Llanfair Isa (o’r 18fed ganrif, mae'n bosibl, ond o darddiad cynt a set o dai allan diddorol). I’r de o’r afon ceir pâr o fân ffermydd (gan gynnwys un â’r enw ‘ynys’) a chwpl o stadau glan môr o’r 20fed ganrif. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys Mochras, sef cyrchfan gwyliau 20fed ganrif i dwristiaid ar safle fferm gynharach o’r 19eg ganrif (mae Mochras yn ynys pan fydd y llanw’n uchel).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
nodweddion ffosydd draenio wedi’u torri, ffermydd, waliau sychion
Mae llociau mawr â ffosydd wedi’u torri yn nodweddu’r rhan fwyaf o’r ardal (gweler hefyd ardal 30), er yn rhan ogleddol yr ardal, yng nghyffiniau Llanbedr, (gweler y ffotograff) ceir patrwm pendant o gaeau pori wedi'u gwella o amgylch y tair fferm a nodwyd uchod, sydd â waliau sychion neilltuol o glogfeini, yn ddestlus ac yn wyn, yn nodi eu ffiniau (gweler ardal 01). Fodd bynnag, mae ffosydd draenio wedi’u torri ar hyd a lled yr ardal, gan gynnwys crynodiad ohonynt ar lannau afon Artro ei hun. Mae gorsaf Llanbedr ar ymyl yr ardal ar ffordd sy’n rhedeg i lawr o’r pentref ac yn arwain at RAE Llanbedr (ardal 11) ac yn y pen draw (gan ddibynnu ar y llanw) i gyrchfan gwyliau Mochras.

