Cefndir hanesyddol
Ehangwyd yr Awyrlu Brenhinol yn helaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac o ganlyniad i hyn roedd angen sawl maes awyr newydd. Yn fater o bolisi, lleolid ysgolion hyfforddi awyr-lywio a saethu o’r awyr yng ngogledd-orllewin Prydain, ardaloedd yr ystyriwyd eu bod yn gymharol ddiogel. Bu’r arolygwyr a oedd yn chwilio am safleoedd posibl yn craffu’n fanwl ar sir Gwynedd, gan ddewis saith lleoliad ar gyfer meysydd awyr newydd. Ar y gwastatir arfordirol islaw Llanbedr, rhwng y môr a'r mynydd, y lleolwyd y mwyaf deheuol o'r rhain. Roedd yn gweithio dan reolaeth Y Fali fel maes awyr blaen ar gyfer cyrchoedd undydd yn erbyn ysbeilwyr y gelyn yn y moroedd lleol. Roedd hefyd yn gysylltiedig ag ysgol hyfforddi a barhaodd gydol y rhyfel heb newid fawr ddim. Defnyddiwyd hefyd fel canolfan ar gyfer unedau cydweithredu’r fyddin, a fyddai’n tynnu targedau ar gyfer ymarferion tanio - hen ymarfer digon diflas. Erbyn 1945, roedd y maes awyr yn gweithredu ar lefel is o lawer, ac yn ystod y 1950au, daeth Llanbedr i fod yn rhagorsaf ar gyfer y Sefydliad Aerofod Brenhinol yn Farnborough, lle cynhelid ymchwil i beiriannau targed dibeilot. Llanbedr a’r Fali oedd yr unig ganolfannau yr oedd y Llu Awyr Brenhinol yn parhau i’w defnyddio. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Maes awyr yr Ail Ryfel Byd a’r RAF mewn cyfnod diweddarach, ynghyd ag isadeiledd
Mae cynllun sylfaenol y maes awyr presennol yn hynod debyg i’r hyn ydoedd yn y 1940au, ar wahân, wrth gwrs, i’r ffaith iddo gael ei ddatblygu yn faes awyr modern gydag adeiladau llawer mwy cyfoes yn dyddio o’r 1980au (gan gynnwys adeiladau o fath ‘diwydiannol’). Fodd bynnag, mae llawer o’r awyrendai gwreiddiol a’r adeiladau pren yn para ac mewn cyflwr da, ac mae’r awyrgylch fwy neu lai yn ddigyfnewid ar y cyfan.

