10 Morfa Dyffryn (PRN 18243)

Cefndir hanesyddol

Yn y canrifoedd wedi’r canoloesoedd, fe siltiodd yr ardal arfordirol hon ac ystyriwyd hi yn anialdir corsiog.  Aeth stad Cors-y-gedol ati i amgáu a draenio rhan helaeth o'r ardal tua diwedd y 18fed ganrif gan greu’r tirlun fel y gwelwn ef heddiw.   

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

 twyni tywod

Mae ehangder y system twyni tywod (gweler system debyg hefyd yn ardal 32) yn diffinio'r ardal nodwedd hon.  Dynodwyd Morfa Dyffryn (CCGC cyf.  31WNS) yn SoDdGA am y tro cyntaf ym 1953, a diwygiwyd hyn yn ddiweddarach. Mae’n ymestyn dros 334ha.  Mae’n ardal ag iddi dwyni tywod arfordirol symudol a sefydlog â morfa heli ac aber sy’n estyniad o Warchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn.  Mae’r system twyni galchaidd helaeth yn cynnwys twyni hyd at 60tr o uchder.  Mae hefyd yn bwysig i blanhigion ac adar hirgoes.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home