07 Corstir, i’r gorllewin o Fryn-crwn  (PRN 18273)

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys ardal fechan o gorstir (gweler isod) sy’n debyg i ardal 04, ar waelod dyffryn yr afon yn y fan hon, hyd at ymyl y llyn artiffisial (ardal 05).  Ychydig iawn o dystiolaeth weladwy sydd o ecsbloetio gan ddyn, er y dichon fod hyn wedi’i gladdu (gweler uchod) ac eithrio ychydig o waliau, dau lwybr sy’n croesi’r ardal a pheth tystiolaeth o weithgareddau draenio o’r gorffennol.  Gan ei bod yn ymddangos bod yr aneddiadau i’r gorllewin a’r dwyrain o’r ardal hon yn rhai o’r 18fed – dechrau’r 19eg ganrif, (nid oes aneddiadau yn yr ardal hon ei hun), gallwn dybio bod y nodweddion hyn hefyd yn dyddio o’r un cyfnod.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

ardal heb ei chau, corstir

Mae diffyg caeau a gwelliannau amaethyddol a ddaw yn sgîl cau tir yn nodweddu’r ardal: mae’n ‘naturiol’ ei diwyg i raddau helaeth (yn ddiamau o ganlyniad i or-ecsbloetio yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddarach – gweler yr adran uchod) er bod sawl wal gerrig yn ei rhannu yn nifer o gaeau mawr a dau lwybr troed (hen lwybrau mae’n debyg) yn ei chroesi o’r gorllewin i’r dwyrain.  Mae’r ardal hefyd yn cynnwys peth tystiolaeth o reoli dwr ar ffurf camlesi a ffosydd byrion.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home