03 Y Rhinogau – llethrau dwyreiniol isaf creigiog  (PRN 18269)

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal hon o gribau creigiog naturiol ar lethrau isaf y Rhinogau sy’n wynebu’r dwyrain yn cynnwys ond ychydig o olion o weithgarwch dynol yn y gorffennol, sef nifer o feysydd caeëdig mawr, afreolaidd eu siâp ag ychydig yn unig o gorlannau.  Mae ffin ddwyreiniol bwlch o Gwm Bychan (i’r gorllewin) dros Graig Drwg ac i lawr i Grawcwellt (efallai i Gefn Clawdd a thu hwnt yn wreiddiol) yn rhannu’r ardal yn ddwy.   Mae un cylch cwt cynhanesyddol i’w weld tua phen gogleddol yr ardal, ond ni chafodd yr ardal ei hamgáu na’i hecsbloetio’n llawn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

ysgafelloedd creigiog, waliau sych, llwybr

Mae’r ardal yn cynnwys cyfres naturiol o gribau creigiog sy’n dangos ond ychydig olion o weithgarwch dynol yn y gorffennol y tu hwnt i nifer o waliau sych, a'r llwybr y soniwyd amdano uchod.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home