02 Cefn Clawdd – aneddiadau a thiroedd caeëdig  (PRN 18268)

Cefndir hanesyddol

Un o ddim ond tair trefgordd ganoloesol yn yr ardal Gofrestru hon yw Cefn Clawdd, er na wyddys ond ychydig yn ei chylch.  Mae anheddiad helaeth (o’r cyfnod cynhanesyddol hwyr) ychydig i’r dwyrain (y tu allan i’r ardal), ond mae’r pedwar anheddiad yma (Wern-fach, Wern-cyfrdwy ac un nas enwyd, yn ogystal â Chefn Clawdd) a’u caeau cysylltiedig yn debyg i ffermydd a gerfiwyd allan o’r ucheldiroedd digroeso yn ystod diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg.  Yn sicr, mae pob un o’r pedair fferm (a’u caeau, sy'n fawr, yn afreolaidd eu siâp ac wedi'u cau yn nodweddiadol o lechfeddiannu’r tiroedd ymylol) yn ymddangos ar fap degwm o’r 1830au ond ychydig yn wahanol i'r hyn ydynt heddiw.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

ffermydd ucheldirol, caeau afreolaidd

Mae’n ymddangos mai un yn unig o’r ffermydd (Cefn Clawdd) sy'n dal i gael ei ffermio (torrir y gwair/silwair islaw’r ty fis Awst). Mae’n bosibl fod Wern-cyfrdwy wedi’i foderneiddio a’i ddefnyddio fel ty gwyliau, ond mae’n ymddangos bod y ddau anheddiad arall, ynghyd â’u caeau, wedi’u gadael yn segur.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home