01 Ffridd Lwyd – coedwig  (PRN 18267)

Cefndir hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd hon yn cynnwys planhigfa goed fodern (20fed ganrif) mewn bloc, uwchlaw glannau de-orllewinol Llyn Trawsfynydd. Yn ôl pob tebyg, plannwyd hon ar yr un pryd â’r blociau mawr o goed tebyg yng Nghoed y Brenin ac o amgylch y goedwig honno, i’r de.  Mae’r map degwm yn dangos crynodiad o gaeau eithaf mawr â’u canolbwynt yng Nghae Rhys (dangosir y rhain o hyd ar fap modern yr Arolwg Ordnans, ac mae'n debyg eu bod yn dal i oroesi o fewn y blanhigfa), ac mae'n ymddangos mai tir diffaith heb ei gau (sy’n arwain at ardal 03) yw'r ardal uwchlaw'r meysydd hyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Coedwig yn dyddio o’r 20fed ganrif

Bloc o goedwig fodern sy’n cynnwys y rhywogaethau arferol, a blannwyd ar dirwedd gynharach â waliau sych wedi’u codi arni, yw’r ardal hon.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home