19 Mynydd-dir agored – Moel Ddu a Moel Oernant (PRN 18285)

Cefndir hanesyddol

Mae darn o ffordd Rufeinig yn croesi ymyl dde-orllewinol yr ardal ac mae’n cynnwys odynnau teils Penystryd.  Dangosir yr ardal o ucheldir agored ar Foel Ddu a Moel Oernant fel ‘Llechwedd Cain Common’ ar fap degwm 1840.  Mae map a luniwyd ym 1948 (Archifau Dolgellau ZP/12/10) yn dangos maint ‘Trawsfynydd Artillery Range ’ (gweler ardal 20), gan gynnwys yr ardal gyfan.  Ar wahân i’r uchod, a sawl siel heb ei ffrwydro, nid yw’r ardal yn cynnwys unrhyw nodweddion o bwysigrwydd hanesyddol nac archeolegol. Nid oes yma hyd yn oed waliau caeau.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

ardal ucheldir agored

Mae natur agored yr ardal yn ei nodweddu, ac mae’n cynnwys dau safle cynhanesyddol a Rhufeinig pwysig (rhestredig) a bu’n faes tanio ar gyfer magnelaeth ar ddechrau’r 20fed ganrif.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home