14 Llethrau rhyngol – ochr ogleddol Cwm Prysor (PRN 18280)
Cefndir hanesyddol
Mae’r ardal hon o lethrau bryniau rhyngol yn debyg i ardal 11 (ochr ddeheuol Cwm Prysor). Mae’n debyg bod y caeau mawr, afreolaidd eu siâp sy’n gwahaniaethu’r ardal hon oddi wrth ardaloedd 15 (ucheldiroedd agored uwchlaw) a 12 (caeau amgaeedig islaw) yn cynrychioli cau tiroedd/llechfeddiannu ymylon ucheldirol yn yr ardal drwyddi draw ar ôl 1840. Nid oes unrhyw ffermydd na thystiolaeth o anheddu cynt yn yr ardal, dim ond dwy gorlan.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
caeau amgaeedig afreolaidd eu siâp
Yr unig nodweddion hanesyddol yn y dirwedd yma yw nifer o gaeau amgaeedig afreolaidd eu siâp â waliau sych, nad oes ganddynt nemor ddim perthynas â’r dopograffeg waelodol, na chysylltiad ag unrhyw ffermydd.

