13 Llethrau’r bryniau – Moel Uchaf Dol-haidd  

(PRN 18279)

Cefndir hanesyddol Ardal gymharol fechan o ddiffeithdir mynyddig sy’n rhannol wedi’i amgáu ar lethrau gogleddol blaen Cwm Prysor (sef y pen dwyreiniol) yw hon.  Gorwedd yr ardal uwchlaw’r anheddiad a’r caeau amgaeedig (ardal 12) yng ngwaelod y dyffryn, ac islaw copa’r mynydd sydd bron i gyd yn agored (y tu allan i ardal y prosiect, i gyfeiriad y de).  Mae wedi ei rhannu’n nifer o gaeau mawr afreolaidd eu siâp, wedi’u diffinio â waliau cerrig syth yn dyddio mae’n debyg o’r 18fed neu’r 19eg ganrif, ac yn ogystal â hynny mae’n cynnwys dwy gorlan ac olion mwyngloddio arbrofol sydd bellach yn segur.  Adwaenir llawer o’r ardal hon fel Gallt-y-Daran Common (o fewn plwyf Llanycil yn bennaf) ar fap degwm o ganol y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

waliau cerrig, corlannau, lefelau mwyngloddio  

Ychydig sydd yn yr ardal hon o ddiddordeb hanesyddol, ond diffinnir hi ar sail ei lleoliad rhyngol rhwng copaon agored y mynyddoedd a’r caeau a’r aneddiadau yng ngwaelod y dyffryn.  Mae’r ardal mewn basn bychan, ac mae nifer o nentydd yn ei chroesi.

© Crown copyright. All rights reserved, Gwynedd Archaeological Trust, 100017916, 2005

Back Home