11 Llethrau rhyngol, Ffridd Wen (PRN 18277)
Cefndir hanesyddol
Ardal yw hon sy’n cynnwys llethrau rhyngol Ffridd Wen sy’n wynebu'r gogledd ar ochr ddeheuol Cwm Prysor, rhwng copa'r mynydd agored (ardal 21) a’r aneddiadau ffermio ar lawr y dyffryn a’r llethrau isaf (ardal 12). Ceir un anheddiad clwstwr cytiau wedi’i amgáu (ac wedi ei gadw’n dda, a’i restru) yn yr ardal (un o'r nifer fechan o'r cyfryw safleoedd 'mewndirol'), ond mae dyddiad y caeau mawr y rhannwyd yr ardal ynddynt yn ddiweddarach (mae’r rhan fwyaf ohonynt i’w gweld ar y map degwm, felly mae’n debygol eu bod yn dyddio o’r 18fed/dechrau’r 19eg ganrif).
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
caeau mawr, waliau cerrig
Mae’r ardal hon yn wahanol i’r un uwch (19) oherwydd ei chaeau mawr, gyda waliau cerrig yn eu diffinio, sy'n ei nodweddu. Ar yr un pryd, mae’r caeau hyn yn fwy ac yn fwy gwasgarog na’r rhai islaw sy’n diffinio llethrau is Cwm Prysor (12). Nid oes unrhyw anheddiad modern yn yr ardal.

